Ffroenu

Mae ffroeni cyffuriau i mewn i’r trwyn (aranadliad trwynol) yn ffordd gyffredin o fewnanadlu sylwedd i mewn i’r corff. Mae ffroeni yn achosi effaith llawer cyflymach nag amlynciad (llyncu) gan ei fod yn cael ei amsugno’n gyflym i mewn i lif y gwaed drwy’r meinwe meddal yng ngheudod y trwyn.

Mae ffroeni tybaco (snisin) yn dyddio’n ôl i’r 15fed Ganrif. Mae tybaco snisin yn cael ei falu’n fân i mewn i bowdwr fel y gellir ei amsugno drwy pilennau’r trwyn pan mae’n cael ei ffroeni. Gellir ffroeni cyffuriau eraill yn yr un modd, yr un mwyaf adnabyddus o’r rhain yw cocên, ond gellir hefyd defnyddio amffetaminau a heroin yn yr un ffordd.

Derbyn y cyffur mewn modd mwy diogel

  • Defnyddiwch ddyfais lân bob amser (ffroenwr)
  • Defnyddiwch eich dyfais eich hun
  • Peidiwch â rhannu dyfeisiau; efallai y bydd olion gwaed ar eich offer
  • Ffroenwch yn uchel i fyny’r ffroen er mwyn osgoi’r meinwe meddal mwyaf sensitif
  • Glanhewch lwybrau’r trwyn ar ôl defnyddio sylweddau, gyda hances bapur neu ffon gotwm
  • Newidiwch eich ffroenau er mwyn lleihau niwed i un ochr
  • Os yw eich trwyn yn gwaedu – rhowch y gorau iddi

Sut Mae’r Cyffuriau’n Cael Eu Paratoi?

Mae’r wybodaeth ganlynol yn cyfeirio’n benodol at amffetamin a chocên: yn gyntaf, mae’n rhaid i’r cyffur gael ei falu i mewn i bowdwr mân. Fel arfer, mae hyn yn cael ei wneud drwy dorri’r cyffur crisialog gan ddefnyddio rasel neu gerdyn credyd ar arwyneb caled ac adlewyrchol megis drych neu gerdyn credyd. Bydd y cyffur powdwr wedyn yn cael ei lunio i mewn i resi gan ddefnyddio’r rasel/cerdyn credyd cyn ei ffroeni. Gallai gymryd rhwng pump a phymtheg munud cyn i’r cyffur gael eu hamsugno ac i’r effeithiau cael eu teimlo.

Sut Mae’r Cyffur Yn Cael Ei Amsugno?

Y tu mewn i’r trwyn, mae’r powdwr mân yn cael ei amsugno i mewn i lif y gwaed drwy piliennau’r trwyn. Os ydych chi wedi cael trwyn gwaedlyd erioed, rydych chi’n ymwybodol o ba mor sensitif yw’r rhain a pha mor agos i’r wyneb y mae’r gwaed.

Fel amddiffyniad naturiol yn erbyn corffynnau estron yn cael mynediad i lwybrau’r trwyn, bydd y cynhyrchiad o fwcws yn cael ei atgyfnerthu i amddiffyn y piliennau mân hyn yn y trwyn gan wneud gweinyddiaeth dro ar ôl tro drwy’r dull hwn yn llai effeithiol.

Risgiau Sniffian Cyffuriau

Mae’r risgiau o ffroeni cyffuriau yn cynnwys heintiau sinws, a risg o gael firysau fel covid-19 neu firysau a gludir yn y gwaed fel hepatitis o ganlyniad i rannu paraffernalia fel nodiadau banc neu welltyn yfed. Gall ffroeni hirdymor achosi niwed difrifol i’r cartilag a’r asgwrn y tu mewn i’r trwyn, a allai olygu bod angen llawdriniaeth blastig.

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: