Naltrexone

naltrexone
  • Naltrexone

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: Naltrexone Hydrochloride

Enwau Generig: Nalorex, Opizone

An example of what Naltrexone looks like
Tabledi, mewnblaniad.
Gwrthweithydd derbynnydd opioid. Mae'n blocio effeithiau cyffuriau opioid (megis morffin, heroin neu codeine). Mae'n cystadlu gyda'r cyffuriau hyn ar gyfer y derbynwyr opioid yn yr ymennydd - os bydd unigolyn yn cymryd opiadau tra'n derbyn presgripsiwn am Naltrexone, ni fydd yr opiadau yn cael unrhyw effaith neu bydd yn achosi dechrau symptomau diddyfnu sydyn. Mewn triniaethau ar gyfer dibyniaeth ar alcohol, mae'n gweithio drwy leihau'r crefu am alcohol.
Argymhellir Naltrexone fel dewis o driniaeth i bobl sydd wedi bod yn ddibynnol ar opioid ond sydd wedi stopio ei ddefnyddio ac yn ymroddedig i aros yn rhydd o'r cyffuriau mewn rhaglen ymataliad. Dylid rhoi triniaeth gyda naltrexone fel rhan o'r rhaglen gefnogi i helpu pobl i reoli eu dibyniaeth.
Mewn triniaeth tymor hir o ddibyniaeth ar opiadau, pan fydd unigolion yn rhydd o opiadau am 7 - 10 diwrnod, hefyd defnyddir mewn triniaeth dibyniaeth ar alcohol.
Ceir drwy wneuthurwyr, fferyllfeydd a phresgripsiwn meddyg teulu.
Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymunedol neu dimau cyffuriau cymunedol, yn cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, dadwenwyno a rhagnodi i rai sy'n defnyddio opiadau, grwpiau cefnogi a gwasanaethau eraill fel aciwbigo. Mae rhai'n agor am oriau hirach ac weithiau ar benwythnosau. Gall meddygon teulu ac ysbytai atgyfeirio at wasanaethau fel Unedau Dibyniaeth Cyffuriau. Mae'r rhain fel arfer mewn ysbytai neu gerllaw iddynt ac maen nhw'n arbenigo mewn helpu defnyddwyr cyffuriau problemus, yn enwedig unigolion sy'n gaeth i gyffuriau opioid. Maen nhw'n cynnig cwnsela, dadwenwyno, rhagnodi amnewidion a thriniaethau eraill. Mae gwasanaethau preswyl yn cynnig rhaglenni triniaeth i rai sy'n gaeth iawn i gyffuriau ac sy'n ymdrechu i roi'r gorau iddi. Rhaid iddynt fod yn rhydd o gyffuriau wrth gael eu derbyn fel arfer, sy'n golygu bod yn rhaid iddynt gael eu dadwenwyno cyn mynd i mewn. Fel arfer, mae rhaglenni'n para 3-6 mis, ond mae rhai rhaglenni 12 cam yn para mwy. Mae'r mathau o raglenni yn amrywio. Mae grwpiau hunan gymorth fel Narcotics Anonymous (NA) yn cydlynu grwpiau cefnogi lleol i rai sy'n defnyddio cyffuriau ar hyd a lled y wlad. Mae Families Anonymous yn cynnal grwpiau tebyg i deuluoedd rhai sy'n defnyddio cyffuriau.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: