2CE

2ce
  • 7-Up
  • 7th Heaven
  • T-7
  • 2CT-7
  • 2CT
  • 2CB
  • 2CI

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: 2CE - 2,5-dimethoxy-4-ethylphenethylamine
2CI - 2,5-dimethoxy-4-iodophenethylamine
2CT7 - 2-[2,5-Dimethoxy-4-(propylthio) phenylethanamine

Enwau Generig: Psychedelic Phenethylamines

An example of what 2CE looks like
Powdwr gwyn budur, capsiwl a thabledi mewn meintiau a lliwiau amrywiol.

Effeithiau A Ddymunir:

Rhithweledigaethau, afluniad a gwell sŵn a golwg, cyflwr ymwybyddiaeth wedi'i addasu, ewfforia ysgafn, afluniad mewn dirnadaeth amser.

Sgîl Effeithiau:

Teimlo'n anghyfforddus, cyfog, chwydu, cosi, tynhau'r cyhyrau am ormod o amser a chrynu, cur pen, teimlo'n flin a dolur rhydd.

Tymor Hir:

Mae nifer o bobl wedi gorfod cael eu derbyn i'r ysbyty ac un farwolaeth yn gysylltiedig â'r cyffuriau 2CI a / neu 2CE. Nid ydym yn gwybod effeithiau hir dymor o'r defnydd gan nad oes dim ymchwil neu ond ychydig o ymchwil. 2Cs a sylweddau anghyffredin sydd â hanes byr iawn o ddefnydd dynol, ac mae'n bosibl y gellid cynhyrchu effeithiau negyddol parhaol hyd yn oed mewn dos bach.

Tymor Byr:

Ymyriad ar y golwg, dryswch a phyliau o banig, pwysedd gwaed uchel, gorwres, crychguriadau a phryder.
Mae 2C yn deulu o gemegau wedi'u gwneud gan ddyn sy'n rhithweledol ac yn symbylydd, felly gydag effeithiau tebyg i ecstasi a LSD; gall effeithiau bara rhwng 2 a 6 awr ond weithiau'n hirach.
Bydd tabledi a capsiwl yn cael eu llyncu, gellir sniffian y powdwr.
Os yw'n cael ei sniffian, defnyddir llafn rasel i'w dorri a'r rannu'n linellau ar arwyneb caled gwastad fel drych neu wydr neu deilsen.
Mae 2C yn deulu o gemegau a wnaed gan ddyn; mae 2C yn enw cyffredinol ar gyfer y teulu o ffenethylaminau seicadelig a ddatblygwyd yn gyntaf gan Alexander Shulgin yn yr 1970 a 1980au. Gellir gwerthu cyffuriau 2C fel ychwanegiadau dietegol ar gyfer gwella hwyliau a hefyd colli pwysau. Mae Mescaline (3,4,5-trimethoxyphenethylamine) yn alcaloid seicadelig sy'n digwydd yn naturiol o ffenethylamin, sy'n adnabyddus am ei effeithiau sy'n newid meddwl sy'n debyg i effeithiau LSD a psilocybin. Mae Mescaline yn digwydd yn naturiol yn y cactws peyote.
Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, (a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymuned neu dimau cyffuriau cymuned) ar gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd y DU, sy'n cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, cyfnewid nodwyddau ac weithiau grwpiau cefnogi a therapïau cyflenwol megis aciwbigo. Mae'r cynnydd mewn deunydd o symbylydd wedi arwain at rai asiantaethau'n cynnig gwasanaethau arbennig megis cwnsela arbenigol, therapi ymddygiad gwybyddol, aciwbigo a therapïau amgen eraill a rhagnodi gwrthiselydd a chyfeiriadau posibl at adsefydlu preswyl. Mae gan rai gwasanaethau oriau gwaith estynedig ac mae rhai'n cynnig cefnogaeth ar benwythnosau. Gall meddygon teulu ac o bosibl yr adran achosion brys yn yr ysbyty lleol wneud cyfeiriadau at wasanaethau arbenigol cyffuriau yn ogystal â gwasanaethau meddygol cyffredinol, gwybodaeth a chyngor, yn aml mewn partneriaeth ag asiantaeth cyffuriau neu Uned Dibyniaeth ar Gyffuriau.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: