Xylazine

5-meo-dmt
  • Tranq
  • Tranq dope
  • Gyffur bwyta cnawd

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: N-(2,6-Dimethylphenyl)-5,6-dihydro-4H-1,3-thiazin-2-amine

Enwau Generig: Xylazine

An example of what Xylazine looks like

Effeithiau A Ddymunir:

Mae gwybodaeth am xylazine mewn pobl yn anghyflawn ac yn dal i ddod i'r amlwg.

Credir, o’i gyfuno ag opioid tebyg i heroin, fod xylazine yn dawelydd dwys, yn ymestyn effeithiau ymlacio eithafol ‘gouch’ dymunol fel a geir gan heroin ac yn lleihau’r angen i ail-ddosio.

Sgîl Effeithiau:

Mewn dosau uchel iawn, neu o’u defnyddio gydag iselyddion system nerfol ganolog eraill, gall xylazine arwain at golli teimladau corfforol; colli ymwybyddiaeth; dwysáu effeithiau cyffuriau eraill, a gall gymhlethu symptomau a thriniaeth gorddos. Mae’r sgîl-effeithiau yn cynnwys:

  • Tawelydd dibynnol ar ddos (bod yn gysglyd)
  • Tananadlu (anadlu bas)
  • Bradycardia (arafu cyfradd curiad y galon)
  • Hypotension (pwysedd gwaed isel)
  • Hyperglycemia (siwgr gwaed uchel)
  • Arrhythmia (curiad calon afreolaidd)

Fel ‘nitazînau’, mae xylazine yn cael ei gymryd yn ddiarwybod gan bobl sy’n defnyddio cyffuriau opioid fel heroin, felly mae’n bwysicach fyth bod defnyddwyr heroin yn gwneud yr hyn a allant i leihau risgiau.

  • Nid oes unrhyw ffordd i ddweud trwy edrych arnynt a yw cyffuriau stryd eraill ar ffurf tabled neu bowdr yn cynnwys xylazine.
  • n bwysicach fyth erbyn hyn i ddechrau swp/bag newydd o heroin drwy gymryd dos prawf bach yn hytrach na defnyddio'r cyfan ar yr un pryd.
  • Mae ysmygu heroin yn fwy diogel na chwistrellu ac yn llawer llai tebygol o arwain at orddos ac yn llawer llai tebygol o arwain at firysau a gludir yn y gwaed fel Hepatitis B & C a HIV.
  • Os ydych wedi cael seibiant o ddefnyddio opioidau, bydd eich goddefgarwch yn lleihau’n sylweddol, ac rydych mewn mwy o berygl o orddos.
  • Ceisiwch osgoi defnyddio ar eich pen eich hun gan na fydd neb o gwmpas i helpu chi os byddwch yn gorddosio. Os ydych yn defnyddio gyda rhywun, defnyddiwch bob yn ail.
  • Cariwch naloxone gyda chi bob amser. Nid yw Naloxone yn gwrthdroi effaith xylazine, ond gan fod xylazine fel arfer yn cael ei ganfod fel difwynydd mewn heroin neu opioidau eraill, dylid dal i ddefnyddio naloxone pan fydd gorddos gan y bydd yn gwrthdroi effeithiau unrhyw opioidau a gymerir.

Tymor Hir:

Gall defnydd hirdymor o sylweddau anghyfreithlon cymysg xylazine arwain at effeithiau gwenwynig cronnol, gan arwain at gymhlethdodau cronig mewn systemau organau amrywiol, gan gynnwys clwyfau cronig ac wlserau ar y croen.

Tymor Byr:

Nid yw'r dos marwol o xylazine mewn pobl wedi'i sefydlu. Gall y cyfuniad o opioid a xylazine leihau’r anadlu, cyfradd curiad y galon a phwysedd gwaed i lefel beryglus. Mae amnesia hefyd wedi’i nodi. Er nad yw xylazine ynddo’i hun yn achosi'r tananadlu difrifol a welir gyda gorddos opioid, gall yr effaith tawelydd dwys arwain at fygu.

Briwiau Croen:

Os caiff ei chwistrellu'n uniongyrchol i lif y gwaed, gall xylazine achosi wlserau agored mawr ar y croen, niwed i’r meinwe a chrawniadau difrifol. Mae'r clwyfau hyn yn tueddu i ymddangos ar goesau a breichiau ac weithiau nid ydynt ar safle'r pigiad. Mae rhai adroddiadau'n awgrymu y gallant hefyd gael eu hachosi wrth ffroeni xylazine yn ogystal â chwistrelliad.

Mae Xylazine yn dawelydd di-opioid, yn boenladdwr ac yn ymlaciwr cyhyrau a ddefnyddir gan filfeddygon ar anifeiliaid mawr. Yn yr Unol Daleithiau fe'i gelwir yn 'tranq' neu o'i ychwanegu at heroin stryd neu fentanyl fel 'tranq dope'. Mae Xylazine wedi dechrau ymddangos yn y DU fel difwynydd, yn bennaf mewn heroin, ond fe'i canfuwyd hefyd mewn opioidau stryd eraill, fel tramadol a codeine. Mae Xylazine eisoes wedi bod yn gysylltiedig â nifer o farwolaethau yn y DU ers 2022.

Nid yw Xylazine yn cael ei ddefnyddio fel cyffur stryd ar ben ei hun yn y DU ond fe'i canfuwyd fel difwynydd mewn heroin, felly mae'n cael ei ysmygu a'i chwistrellu ynghyd â'r heroin. Pan gaiff ei ddefnyddio fel difwynydd mewn tabledi tramadol neu codeine caiff ei lyncu.

Defnyddir Xylazine gan filfeddygon fel tawelydd ar gyfer anifeiliaid mawr ond nid oes ganddo ddefnydd dynol cymeradwy.

Gellir prynu Xylazine gan gyflenwyr ar-lein yn Tsieina neu gyflenwadau milfeddygol sydd wedi eu dargyfeirio.

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: