Ffurflen Archebu Naloxone

Beth mae’r gwasanaeth hwn yn ei ddarparu?

Drwy gwblhau’r wybodaeth isod, gallwn anfon Naloxone i unrhyw gyfeiriad yng Nghymru. Mae Naloxone yn feddyginiaeth sy’n gallu achub bywyd a gall wrthdroi effeithiau gorddos opioidau dros dro.

Ar gyfer pwy?

Unrhyw un yng Nghymru sy’n defnyddio opioidau megis Heroin, Methadon neu Buprenorphine neu boenleddfwr sy’n cynnwys Opioidau megis Tramadol, oxycodone neu codin heb bresgripsiwn.

Neu unrhyw un sy’n dod i gysylltiad a rhywun sy’n defnyddio opiadau.

Mae hyn hefyd ar gael I ffrindiau neu aeolodau teul’r rhai sy’n defnyddio opiodau neu beonleddfwr sy’n cynnwys opiodau.

I ble y gellir ei ddanfon?

At unrhyw un sy’n byw yng Nghymru.

Sut mae trefnu hyn?

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y tudalen isod (sgroliwch i lawr)

Mae opiadau fel heroin a methadon yn arafu’r brif system nerfol. Gall gorddos o opiadau arafu’r brif system nerfol gymaint nes bod yr ymennydd yn anghofio am anadlu, sy’n gallu arwain at farwolaeth. Naloxone yw’r gwrthwenwyn i orddos o opiadau, mae’n gweithio fel gwrthweithydd trwy orfodi’r opiadau i symud oddi ar dderbynyddion yn yr ymennydd, sy’n gwrthdroi effeithiau gorddos o opiadau. Mae Naloxone yn gweithredu dros dro, sy’n golygu y bydd yr effeithiau’n dechrau pylu ar ôl cyfnod byr (fel arfer yn para rhwng 30 a 60 munud) a gall yr unigolyn brofi effeithiau cael gorddos eto. Mae’n hollbwysig ffonio am ambiwlans os byddwch yn tybio bod rhywun wedi cael gorddos, hyd yn oed os ydych wedi rhoi Naloxone gan y bydd angen gofal pellach ar yr unigolyn.

Os rhoddir Naloxone i rywun sydd heb ddefnyddio Opioidau, ni fydd yna unrhyw effeithiau andwyol

Nid oes gan Naloxone unrhyw nodweddion seicoweithredol ac ni ellir ei gamddefnyddio – mae’n wrthwenwyn i’w ddefnyddio yn sgil gorddos o Opioidau, ac yn feddyginiaeth a all achub bywydau.

Hylif clir sy’n dod mewn paratoadau gwahanol, i’w chwistrellu a chwistrell drwynol.

Mae Naloxone yn gyffur sydd ar gael trwy bresgripsiwn yn unig, felly ni all fferyllfeydd ei werthu dros y cownter. Ond gall gwasanaethau cyffuriau ei roi heb bresgripsiwn. Mae diwygiad i reoliadau meddyginiaethau dynol yn caniatáu i wasanaethau triniaeth cyffuriau megis DAN 24/7 gyflenwi Naloxone heb bresgripsiwn.

A gall unrhyw un ddefnyddio Naloxone i achub bywyd mewn achos brys.

 

 

Mae pecynnau Naloxone i fynd â nhw adref, sy’n cael eu darparu ar gyfer unigolion sydd mewn perygl o orddos o opiadau neu ar gyfer unigolion sy’n debygol o fod yn dyst i orddos o opiadau, ar ffurf pecyn i’w chwistrellu (Prenoxad) neu chwistrell drwynol (Nyxoid). Mae’r pecyn i’w chwistrellu’n cynnwys chwistrell wedi’i llenwi ymlaen llaw a chaiff ei rhoi i mewn i gyhyr, a chwistrell drwynol yw’r pecyn trwynol sy’n cael ei rhoi yn y ffroen.

Defnyddir Naloxone yn benodol i wrthweithio iselder y system nerfau canolog a’r system resbiradol a all fygwth bywyd. Ni ddylid ei camgymryd gyda naltrexone, gwrthweithydd derbynnydd opiad, a ddefnyddir ar gyfer trin dibyniaeth yn hytrach na thrin gorddos brys.

Mae Naloxone yn deillio o Thebaine. Mae Thebaine (paramorphine) yn gemegolyn sy’n digwydd yn naturiol o opiwm, ond mae’n cael effeithiau stimiwleiddio yn hytrach na iselydd.

Tudalen wybodaeth am Naloxone

Ffurflen Archebu Naloxone

Argymhellir y dylai pawb ymgymryd â hyfforddiant ynghylch Naloxone. I allu cyrchu Naloxone, mae'n rhaid i chi fod wedi cwblhau'r hyfforddiant ynghylch Nalaxone a'r hyfforddiant ynghylch gorddosau. Ticiwch y datganiad isod i nodi a ydych chi wedi cwblhau'r hyfforddiant, naill ai ar-lein neu trwy law darparwr gwasanaethau alcohol a chyffuriau lleol. I gwblhau'r hyfforddiant ar-lein ynghylch Naloxone a gynigir gan Exchange Supplies, cliciwch ar y ddolen yn y datganiad. Ar ôl cwblhau'r hyfforddiant, dychwelwch at y dudalen hon i orffen gosod eich archeb.

Datganiad hyfforddiant

A ydych chi wedi cael Pecyn Naloxone yn flaenorol? Ydw/Nac ydw

Mae'n ddefnyddiol i ni wybod y rhesymau dros ofyn am git newydd. Dewiswch yr opsiwn mwyaf perthnasol

Arall

I bwy mae'r Pecyn Naloxone?

Arall

Enw Llawn

Dyddiad Geni

Cyfeiriad

Dewis (Nyxoid © neu Prenoxad ©)

Cydsyniad

Hyfforddiant (exchangesupplies.org)

Adborth

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: