DAN24/7 Cyffuriau ac Alcohol Cymru
Cyffuriau ac Alcohol Cymru
Wales Drug and Alcohol Helpline
0800 6 33 55 88
dan247.org.uk
Pwynt cyswllt ar gyfer unrhyw un yng Nghymru sy’n dymuno cael gwybodaeth ychwanegol neu help mewn perthynas â chyffuriau neu alcohol
Hafan Gwasanaeth Cyffuriau A i Y Amdanom Ni Cysylltwch a ni English

Chwilio Ar-lein am Asiantaethau Alcohol a Chyffuriau

Gallwch chi chwilio am asiantaethau cyffuriau ac alcohol lleol a chenedlaethol a fydd yn gallu cynnig cyngor, cwnsela a thriniaeth i chi.
Bydd unrhyw asiantaethau byddwch chi’n cysylltu â nhw’n cynnig cyngor a gwybodaeth hollol gyfrinachol i chi. Bydd staff proffesiynol sydd wedi’u hyfforddi’n llawn yn gweithio i’r holl asiantaethau.

Os bydd angen help arnoch gallwch chi ffonio DAN 24/7 ar 0800 6 33 55 88.

Dod o hyd i wasanaeth:

Teipiwch ran gyntaf eich Cod post (e.e. LL11) neu eich Tref isod.

Eich Cod Post neu’ch Tref:


Gadewch yn wag i chwilio Cymru gyfan

Math o wasanaeth sy’n ofynnol:

  
 Angen help a chyngor?

Yn cynnig help a chyngor i bobl Cymru

Mae holl wasanaethau DAN 24/7 ar gael i bobl sy’n byw yng Nghymru. Mae ein llinell gymorth ar agor 24 awr y diwrnod, 365 diwrnod y flwyddyn. Gallwch chi siarad yn gyfrinachol â’n gweithredwyr sydd wedi’u hyfforddi’n llawn trwy ein ffonio ar:

0800 6 33 55 88
Os ydych chi’n byw yn Lloegr ewch i wefan Talk To Frank lle gallwch chi chwilio ar-lein am asiantaethau Cyffuriau ac Alcohol lleol a chenedlaethol. Hefyd gallwch chi ffonio llinell gymorth Talk To Frank ar:

0800 77 66 00
Os ydych chi’n byw yn Yr Alban yna gallwch chi chwilio am asiantaethau Cyffuriau ac Alcohol lleol a chenedlaethol ynghyd â gwybodaeth a chyngor trwy fynd i Gyfeiriadur Gwasanaethau Cyffuriau Yr Alban.

Os nad ydych chi’n siwr â phwy i gysylltu yna gallwch chi ffonio llinell gymorth DAN 24/7 am gyngor. Byddwn ni’n hapus i siarad â chi am y gwahanol opsiynau sydd ar gael.

Sep
8 th
 
Ymunwch â'n grwp facebook