DAN24/7 Cyffuriau ac Alcohol Cymru
Cyffuriau ac Alcohol Cymru
Wales Drug and Alcohol Helpline
Ffon di-dal
0808 808 2234
Neu tecstiwch DAN i
81066
dan247.org.uk
Pwynt cyswllt ar gyfer unrhyw un yng Nghymru sy’n dymuno cael gwybodaeth ychwanegol neu help mewn perthynas â chyffuriau neu alcohol
Hafan Gwasanaeth Cyffuriau A i Y Amdanom Ni Cysylltwch a ni English

Cyffuriau a Beichiogrwydd

Mae defnyddio cyffuriau yn ystod beichiogrwydd yn golygu risgiau penodol a’r cyngor safonol i bob merch feichiog yw osgoi defnyddio unrhyw gyffur sy’n newid hwyliau yn ystod beichiogrwydd os oes posibl oni bai ei fod yn cael ei roi dan oruchwyliaeth feddygol.

Mynegai A i Y o Gyffuriau:

A B C D E F G H
I J K L M N O P
Q R S T U V W Z

 

Chwilio Termau Cyffuriau:

  
Gallwch deipio unrhyw air neu enw cyffur uchod i chwilio’r gronfa ddata (e.e. canabis neu drip)

 
 How do drugs work?

Tri Thymor

Mae beichiogrwydd yn cael ei rannu yn dri chyfnod, tri mis o hyd, o’r enw tymhorau (trimesters). Ceir risgiau yn ystod pob tymor. Tymor cyntaf beichiogrwydd yw’r cyfnod mwyaf allweddol oherwydd gall rhai cyffuriau effeithio ar ddatblygiad organau’r ffetws ac, mewn achosion difrifol, achosi erthyliad naturiol. Yn ystod yr ail dymor – misoedd pedwar, pump a chwech – gall rhai cyffuriau arafu twf y babi, gan arwain at bwysau geni isel. Mae cyfraddau llawer uwch o broblemau datblygiadol, salwch plentyndod ac ati, ymhlith babanod â phwysau geni isel. Yn y tri mis olaf, gall rhai cyffuriau effeithio ar esgor gan achosi iddo fod yn gynnar, yn hwyr neu’n faith.

Croesi’r brych

Yn ystod beichiogrwydd, mae’r brych yn ffilter rhwng gwaed y fam a gwaed y babi, gan ganiatáu i folecylau bach iawn basio o’r fam i’r babi wrth atal molecylau mwy rhag croesi. Oherwydd bod molecylau cyffur yn gymharol fach gallant basio ar draws y brych yn hawdd. Oherwydd hyn, bydd y rhan fwyaf o gyffuriau bydd y fam yn eu cymryd yn cyrraedd gwaed y ffetws. Gall hyn arwain at blant sy’n cael eu geni i ferched sy’n gaeth i Heroin, er enghraifft, ddioddef symptomau diddyfnu adeg eu geni.

Beth ddylai defnyddwyr cyffuriau sy’n feichiog wneud?

Oherwydd bod y tymor cyntaf yn gyfnod mor hanfodol mae’n hollbwysig bod marched sy’n defnyddio cyffuriau yn ceisio gofal cyn-geni cyn gynted ag y byddant yn darganfod eu bod yn feichiog. Mae lles corfforol ac emosiynol y fam a’r plentyn o’r pwys mwyaf yn ystod y cyfnod hwn ac, yn y mwyafrif llethol o achosion, byddant yn cael eu gwasanaethu gorau trwy aros gyda’i gilydd. Mae merched beichiog sy’n defnyddio cyffuriau angen dealltwriaeth a chefnogaeth gan yr holl weithwyr proffesiynol o’u hamgylch er mwyn manteisio yn llawn ar yr holl wasanaethau sydd ar gael i wella’u hiechyd ac iechyd eu babanod.

Bwydo ar y fron

Hefyd gall rhai cyffuriau basio o’r fam i’r babi ar ôl geni os yw’r plentyn yn cael ei fwydo ar y fron. Oherwydd bod pibellau gwaed mân o amgylch y chwarrenau sy’n cynhyrchu llaeth yn y fron mae’n bosibl i symiau bach o gyffur fod yn bresennol yn llaeth y fam a’i basio ymlaen i’r babi trwy’r llaeth. Yn y rhan fwyaf o achosion, byddai swm y cyffur mor fach ni fyddai’n cael llawer o effaith ar y babi newydd-anedig, ond efallai ni fyddai hyn yn wir yn achos cyffuriau sy’n hydawdd mewn braster, fel canabis.

 
Ewch i Hafan Drugs A-Z
Feb
5 th
 
Ymunwch â'n grwp facebook