Palfium

palfium
  • Peachies
  • Dextromoramide
  • Palfium

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: Dextromoramide

Enwau Generig: Opioid

An example of what Palfium looks like
Tabledi, gwyn (5mg) a lliw eirin gwlanog (10mg). Hylif clir ar gyfer chwistrelliad (ffiol)

Effeithiau A Ddymunir:

Llawenydd neu ruthr dwys wrth gael pigiad, dedwyddwch, llai o bryder.

Sgîl Effeithiau:

Syrthni, dryswch, rhithwelediadau, teimlo'n sâl, chwydu, rhwymedd.

Tymor Hir:

Dibyniaeth os caiff ei chwistrellu, niwed i gylchrediad, blocio gwythiennau, wlserau, madredd (yn arwain yn aml at dorri aelod i ffwrdd)

Tymor Byr:

Posibilrwydd uchel o or ddos, goddefgarwch, damweiniau.
Iselydd y system nerfol ganolog, poen laddwr.
Drwy'r geg, neu bydd tabledi'n cael eu gwasgu a'u chwistrellu.
Os yw tabledi'n cael eu chwistrellu: nodwyddau a chwistrell, dŵr, matsien neu daniwr, llwy, rhwymyn tynhau.
Poen difrifol anodd ei drin
Ceir drwy wneuthurwyr, fferyllfeydd, presgripsiwn meddyg teulu.
Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymunedol neu dimau cyffuriau cymunedol, sy'n cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, dadwenwyno a rhagnodi i rai sy'n defnyddio opiadau, grwpiau cefnogi a gwasanaethau eraill fel aciwbigo. Mae rhai'n agor am oriau hirach ac weithiau ar benwythnosau. Gall meddygon teulu ac ysbytai atgyfeirio at wasanaethau fel Unedau Dibyniaeth Cyffuriau. Mae'r rhain fel arfer mewn ysbytai neu gerllaw iddynt ac maen nhw'n arbenigo mewn helpu defnyddwyr cyffuriau problemus, yn enwedig unigolion sy'n gaeth i gyffuriau opiate/opioid. Maen nhw'n cynnig cwnsela, dadwenwyno, rhagnodi amnewidion a thriniaethau eraill. Mae gwasanaethau preswyl yn cynnig rhaglenni triniaeth i rai sy'n gaeth iawn i gyffuriau ac sy'n ymdrechu i roi'r gorau iddi. Rhaid iddynt fod yn rhydd o gyffuriau wrth gael eu derbyn fel arfer, sy'n golygu bod yn rhaid iddynt gael eu dadwenwyno cyn mynd i mewn. Fel arfer, mae rhaglenni'n para 3-6 mis, ond mae rhai rhaglenni 12 cam yn para mwy. Mae'r mathau o raglenni yn amrywio. Mae grwpiau hunan gymorth fel Narcotics Anonymous (NA) yn cydlynu grwpiau cefnogi lleol i rai sy'n defnyddio cyffuriau ar hyd a lled y wlad. Mae Families Anonymous yn cynnal grwpiau tebyg i deuluoedd rhai sy'n defnyddio cyffuriau.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: