NRG1
nrg1- O-2482
- Rave
- Energy-1
- NRG-1
- Naphyrone
Enwau Gwyddonol: Naphthylpyrovalerone
Enwau Generig: NRG1
Ni allwch bob amser fod yn siŵr mai'r hyn a brynwch yw'r hyn a gewch, ond os ydych am anfon unrhyw
sylwedd i ffwrdd i'w brofi, gallwch ei anfon at WEDINOS
Powdr crisialog gwyn
Effeithiau A Ddymunir:
Mae'r sylwedd yn weithredol ar ddos isel. Symbyliad, effro yn hirach, effro iawn, eisiau siarad.Sgîl Effeithiau:
Pryder, crychguriad y galon, pwysedd gwaed uchel, tymheredd y corff uwch, methu canolbwyntio'n hir, clensio'r ên, cyhyrau'n plycio/gwingiad, methu cysgu, paranoia, colli cof.Tymor Hir:
Nid oes unrhyw ddata ynghylch diogelwch neu wenwyndra'r sylwedd hwn. Ni wyddom fawr ddim am effeithiau tymor hir y cyffur oherwydd yr hanes byr o'i ddefnyddio. Fodd bynnag, bydd niwed posibl yn cynnwys effeithiau ar y galon a phibellau'r gwaed, gorwres, dibyniaeth ac effeithiau seiciatryddol. Bu adroddiadau am baranoia difrifol a thueddiadau hunanladdiadTymor Byr:
Nid oes unrhyw ddata ynghylch diogelwch neu wenwyndra o'r sylwedd hwn.
Symbylydd synthetig Effeithio ar niwro-drosglwyddwyr serotonin, dopamin a norepinephrine yn gweithredu fel atalydd ailfewnlifiad triphlyg.
Cyhyr Dosbarth B dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau.
Gwerthir fel arfer fel powdr crisialog gwyn sy'n cael ei sniffian i fyny'r trwyn, ei lyncu ond hefyd yn cael ei gymryd fel 'bom' - wedi'i lapio mewn papur a'i lyncu.
Os yw'n cael ei sniffian, defnyddir llafn rasel i'w dorri a'r rannu'n llinellau ar arwyneb caled gwastad fel drych neu wydr neu deilsen.
Dim
Yn deillio o pyrovalerone - cyffur seicoweithredol o'r teulu cathinon o gemegolion gydag effaith symbylol, ac mae'n debyg yn gemegol i mephedrone. Yn cael ei gynyrchru fel arfer dramor.
Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, (a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymunedol neu dimau cyffuriau cymunedol) ar gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd y DU, sy'n cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, cyfnewid nodwyddau ac weithiau grwpiau cefnogi a therapïau cyflenwol fel aciwbigo. Mae cynnydd yn y deunydd o symbylydd wedi arwain rhai asiantaethau i gynnig cwnsela arbenigol, therapi ymddygiad gwybyddol, aciwbigo a therapïau amgen eraill a rhagnodi gwrthiselydd ac atgyfeiriadau posibl i adsefydlu preswyl. Mae gan rai gwasanaethau oriau gwaith estynedig ac mae rhai'n cynnig cefnogaeth ar benwythnosau. Gall meddygon teulu ac o bosibl yr adran achosion brys yn yr ysbyty lleol atgyfeirio i wasanaethau arbenigol cyffuriau yn ogystal â gwasanaethau meddygol cyffredinol, gwybodaeth a chyngor, yn aml mewn partneriaeth ag asiantaeth cyffuriau neu Uned Dibyniaeth ar Gyffuriau.
Rhieni a pherthnasau eraill
Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.