Methoxetamine

methoxetamine
  • Rhino Ket
  • Roflcoptr
  • Mexxy
  • MXE

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: 3-MeO-2-Oxo-PCE (RS)2-(3-methoxyphenyl)-2-(ethylamino)cyclohexanone

Enwau Generig: Methoxetamine Hydrochloride

An example of what Methoxetamine looks like
Mae Methoxetamine Hydrochloride pur yn bowdr gwyn.

Effeithiau A Ddymunir:

Defnyddwyr yn adrodd am deimlad o ddedwyddwch, cynhesrwydd a datodiad. Teimlo'n ddigyffro a llai o bryder. Adroddir ei fod yn cael effeithiau dymunol ac annymunedig tebyg i Ketamine, ond mae rhai defnyddwyr wedi adrodd bod yr effeithiau annymunedig yn para'n hirach nac ar Ketamine.

Sgîl Effeithiau:

Bydd yr effeithiau'n cymryd tua 10 munud i chwarter awr fel arfer i fod yn amlwg, ond weithiau gall gymryd hirach, awr i awr a hanner. Mae'r oediad hwn yn golygu bydd rhai defnyddwyr yn credu nad ydynt wedi cymryd digon, felly byddant yn cymryd dos arall, gan arwain at gymryd gormod a phrofi effeithiau annymunol. Yn ogystal â hyn, gall y sgil effeithiau gynnwys pryder, cydlyniad gwael, lleferydd aneglur, symudiadau llygaid anrheoledig, simsan wrth gerdded a diffyg cydbwysedd, dryswch, methu cysgu a blacowts.

Tymor Hir:

Ychydig a wyddom am wenwynder posibl methoxetamine, ond mae pobl wedi gorfod mynd i'r ysbyty yn UDA a'r DU ar ôl ei ddefnyddio'n adloniadol. Mae potensial iddo achosi dibyniaeth seicolegol.

Tymor Byr:

Mae effeithiau datgysylltiol MXE yn gwneud i ddefnyddwyr deimlo datodiad o'r corff a'r amgylchedd, ond gall hyn roi defnyddwyr mewn perygl o ddamweiniau neu gael eu brifo gan eraill. Wrth gymryd dosau uwch, gall defnyddwyr brofi cyflwr catatonig, sy'n ffurf enbyd o ddatgysylltiad, lle bydd y defnyddiwr yn effro ond yn llonydd ac yn anymatebol. Bydd unigolion yn y cyflwr hwn yn gwneud ychydig iawn o gyswllt llygad ag eraill, yn hollol fud a disymud am gyfnodau hir. Hefyd ail-ddosio a gorddos cymelledig.
Mae MXE yn anesthetig datgysylltiol, rhithbair, llonyddydd a gwrthiselydd.
Bydd y powdr gwyn yn cael ei sniffian drwy'r trwyn, neu gellir ei doddi mewn dŵr neu ei roi yn y geg i doddi; gellir ei lyncu hefyd ('bomio'). Gellir ei chwistrellu'n fewngyhyrol neu ei ddefnyddio'n rhefrol.
Os yw'n cael ei sniffian, defnyddir llafn rasel i'w dorri ar arwyneb caled gwastad fel drych neu wydr neu deilsen. Os yw'n cael ei chwistrellu: chwistrell, nodwydd a dŵr.
Datblygwyd Arylcyclohexylaminau fel anesthetig yn y 1960au.
Mae MXE yn gemegolyn o'r dosbarth arylcyclohexylamine. Mae'n deillio o ketamine a PCP. Mae MXE yn cael ei syntheseiddio mewn labordai dramor ac mae wedi cael ei werthu ar lein fel 'cemegolion ymchwil'
Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, (a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymunedol neu dimau cyffuriau cymunedol) ar gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd y DU, sy'n cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, cyfnewid nodwyddau ac weithiau grwpiau cefnogi a therapïau cyflenwol fel aciwbigo. Mae'r cynnydd mewn deunydd o sylweddau seicoweithredol wedi arwain at rai asiantaethau'n cynnig gwasanaethau arbenigol megis cwnsela, therapi ymddygiad gwybyddol, aciwbigo a therapïau amgen eraill a rhagnodi gwrthiselydd ac atgyfeiriadau posibl i adsefydlu preswyl. Mae gan rai gwasanaethau oriau gwaith estynedig ac mae rhai'n cynnig cefnogaeth ar benwythnosau. Gall meddygon teulu a'r adran achosion brys yn yr ysbyty lleol efallai atgyfeirio at wasanaethau arbenigol cyffuriau yn ogystal â gwasanaethau meddygol cyffredinol, gwybodaeth a chyngor, yn aml mewn partneriaeth ag asiantaeth cyffuriau neu Uned Dibyniaeth ar Gyffuriau.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: