Hafan | Gwasanaeth | Cyffuriau A i Y | Llenyddiaeth | Amdanom Ni | Cysylltwch a ni |
MethadoneMethadone, meth, linctus, physeptone, phy amps. Os na fyddwch chi’n dod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano gallwch chi bob amser ffonio llinell gymorth DAN 24/7 ar 0808 808 2234 a siarad yn gyfrinachol â chynghorydd. |
What does Methadone look like?Mae cymysgedd Methadon yn surop gwyrdd tew, sy'n cynnwys yr un faint o Methadon a hylif ac fe'i defnyddir i drin dibyniaeth opiad. Mae methadon y gellir ei chwistrellu yn dod fel physeptome mewn ffiolau, hylif clir sy'n barod i'w chwistrellu. Gellir cael tabledi methadon, ond pur anaml fydd y rhain yn cael eu rhagnodi. Mae ffisig Methadon yn baratoad llawer gwannach na ddefnyddir yn aml ar gyfer trin dibyniaeth. |
Liquid Methadone: 'Linctus'
|
||||
Enwau GwyddonolMethadone Hydrochloride Enw CyffredinolOpioid Effeithiau MethadoneEffeithiau a Ddymunir:I atal symptomau rhoi'r gorau i opiad, lleddfu poen Sgîl Effeithiau:Penysgafnder, pendro, chwysu, ceg sych, teimlo'n sâl, chwydu, syrthni. RisgiauTymor byr:Goddefedd, gorddos a all fod yn farwol. Mae hwn yn gyffur hyNod beryglus i blant sydd wedi cymryd dosau a ragnodwyd i'w rhieni yn ddamweiniol. Tymor hir:Dibyniaeth, symptomau diddyfnu Reducing HarmInformation to help with Reducing Harm when using Methadone |
How does Methadone work?Iselydd y system nerfol ganolog, poen laddwr. Statws Cyfreithiol:Dosbarth A dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau. How Is Methadone Taken?Cymerir cymysgedd Methadon a ffisig Methadon drwy'r geg, chwistrellir ffiolau physeptone. Cymerir y tabledi drwy'r geg, ond weithiau gellir eu chwistrellu. ParaphernaliaPoteli meddyginiaeth brown ar gyfer y cymysgedd a ffisig; chwistrell, ffiol, rhwymyn tynhau ayb os caiff ei chwistrellu. |
Defnydd Meddygol:Defnyddir cymysgedd Methadon i reoli dibyniaeth opiad - Heroin yn bennaf. Defnyddir ffisig Methadon fel lleddfwr peswch ac yn achlysurol fel poen laddwr. O ble mae'n dod?Ar bresgripsiwn gan feddyg teulu neu feddyg mewn clinig dibyniaeth cyffuriau neu yn deillio gan un o'r ddau. Gwasanaethau sy'n helpuMae Methadon yn cael ei ddefnyddio'n aml mewn rhaglenni amnewid a gynigir gan glinigau dibyniaeth cyffuriau ac weithiau gan feddygon teulu. Bydd defnyddwyr hefyd yn cael eu gweld gan asiantaethau cwnsela cyffuriau a byddant o bosibl yn mynychu cynlluniau cyfnewid nodwyddau, er iddynt fod ar gyffuriau a gynlluniwyd i'w cymryd drwy'r geg. Os bydd Methadon hefyd yn dod yn ddibyniaeth, mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymuned neu dimau cyffuriau cymuned, sy'n cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, dadwenwyno a rhagnodi i rai sy'n defnyddio opiadau, grwpiau cefnogi a gwasanaethau eraill fel aciwbigo. Mae rhai'n agor am oriau hirach ac weithiau ar benwythnosau. Gall meddygon teulu ac ysbytai atgyfeirio at wasanaethau fel Unedau Dibyniaeth Cyffuriau. Mae'r rhain fel arfer mewn ysbytai neu gerllaw iddynt, ac maen nhw'n arbenigo mewn helpu defnyddwyr cyffuriau problemus, yn enwedig unigolion sy'n gaeth i gyffuriau opiate/opioid. Maen nhw'n cynnig cwnsela, dadwenwyno, rhagnodi amnewidion a thriniaethau eraill. Mae gwasanaethau preswyl yn cynnig rhaglenni triniaeth i rai sy'n gaeth iawn i gyffuriau ac sy'n ymdrechu i roi'r gorau iddi. Rhaid iddynt fod yn rhydd o gyffuriau wrth gael eu derbyn fel arfer, sy'n golygu bod yn rhaid iddynt gael eu dadwenwyno cyn mynd i mewn. Fel arfer, mae rhaglenni'n para 3-6 mis, ond mae rhai rhaglenni 12 cam yn para mwy. Mae'r mathau o raglenni yn amrywio. Mae grwpiau hunan gymorth fel Narcotics Anonymous (NA) yn cydlynu grwpiau cefnogi lleol i rai sy'n defnyddio cyffuriau ar hyd a lled y wlad. Mae Families Anonymous yn cynnal grwpiau tebyg i deuluoedd rhai sy'n defnyddio cyffuriau. Rhieni a pherthnasau eraillMae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati. You can view a list of National Drug Agencies. If you would like to talk about Methadone problems then please call the DAN 24/7 Helpline on: 0808 808 2234
|
||||
Last updated: 08 July 2014 |
|
|
|
||
mwy o wybodaeth |
|
DAN 24/7 |
www.onsis.co.uk |