Khat

khat
  • Arabian Tea.
  • Miraa
  • Ghat
  • Chat
  • Cat
  • Qat
  • Khat
  • Catha Edulis
  • Methcathinone
  • Cathinone (Aminopropiophenone)

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: Catha edulis o'r teulu Celastraceae.

Enwau Generig: Catha Edulis

An example of what Khat looks like
Llwyn bytholwyrdd sy'n blodeuo a ddaeth yn wreiddiol o Ddwyrain Affrica a'r Penrhyn Arabaidd Ar ei ffurf naturiol, dail a choesau.

Effeithiau A Ddymunir:

Siaradus, dedwyddwch a chynhyrfiad ysgafn, effröwch, cyffro, ymlediad cannwyll y llygad.

Sgîl Effeithiau:

Methu cysgu, dim chwant bwyd, ceg sych, gor-actifedd, rhwymedd.

Tymor Hir:

Iselder, yn groendenau, dibyniaeth seicolegol. Gall effeithio'n negyddol ar weithrediad yr iau, tueddiad i gael wlserau a llai o chwant rhyw.

Tymor Byr:

Pryder, ymddygiad gorffwyll, paranoia, goddefiad.
Symbylydd y brif system nerfol. Mae Khat yn cynnwys y cemegolion cathinone a cathine sy'n symbylwyr tebyg i amffetamin, ond nid yw Khat mor gryf.
Bydd y dail a'r coesau ffres yn cael eu cnoi neu gellir eu gwneud yn de.
Os yw'n cael ei wneud yn de, offer gwneud te.
Mae Khat wedi cael ei ddefnyddio yn rhannau o Ddwyrain Affrica a'r Penrhyn Arabaidd ers canrifoedd. Mae hir hanes i gnoi Khat fel arferiad cymdeithasol ymysg y cymunedau yn yr ardal hon. Fe'i defnyddir ymysg y cymunedau Somalïaidd, Yemenïaidd ac Ethiopiaidd ym Mhrydain.
Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, (a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymunedol neu dimau cyffuriau cymunedol) ar gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd y DU, sy'n cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, cyfnewid nodwyddau ac weithiau grwpiau cefnogi a therapïau cyflenwol fel aciwbigo. Mae'n bosibl gall sefydliadau amlddiwylliannol gynghori am ffynonellau lleol o arbenigedd am Khat. Mae cynnydd yn y deunydd o symbylydd wedi arwain rhai asiantaethau i gynnig cwnsela arbenigol, therapi ymddygiad gwybyddol, aciwbigo a therapïau amgen eraill a rhagnodi gwrthiselydd ac atgyfeiriadau posibl i adsefydlu preswyl. Mae gan rai gwasanaethau oriau gwaith estynedig ac mae rhai'n cynnig cefnogaeth ar benwythnosau. Gall meddygon teulu ac o bosibl yr adran achosion brys yn yr ysbyty lleol atgyfeirio i wasanaethau arbenigol cyffuriau yn ogystal â gwasanaethau meddygol cyffredinol, gwybodaeth a chyngor, yn aml mewn partneriaeth ag asiantaeth cyffuriau neu Uned Dibyniaeth ar Gyffuriau.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: