DMT

dmt
  • Dimitri
  • Businessmans Lunch

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: N,N-Dimethyltryptamine

Enwau Generig: Dimethyltryptamine

An example of what DMT looks like
Powdr gwyn crisialaidd pan fydd ar ffurf bur. Fodd bynnag yn gyffredinol mae DMT y stryd yn bowdr amhur sy’n cael ei werthu wedi’i lapio a gall fod yn bowdr llwydwyn, melyn, oren a phinc neu hyd yn oed ar ffurf solid.

Effeithiau A Ddymunir:

Rhithbeiryn pwerus sy’n debyg i LSD a madarch, sy’n gweithio’n gyflym gyda effeithiau dwys iawn sy’n para oddeutu 15 i 20 munud, newidiadau mewn ymwybyddiaeth ac aflunio realiti.

Sgîl Effeithiau:

Dryswch, cynyddu cyfradd y galon a phwysedd gwaed, cyfog a chwydu.

Tymor Hir:

Anawsterau seicolegol ac emosiynol am wythnosau wedyn, nid yw’r effeithiau tymor hir yn hysbys eto ond gall fod yn debyg i LSD a sylweddau rhithbeiriol eraill.

Tymor Byr:

Llid y gwddf neu’r ysgyfaint os ydych yn ei ysmygu, unwaith bydd trip yn dechrau ni fyddwch yn gallu rhoi’r gorau iddo, bydd y profiadau ar hap a byddent yn dibynnu ar gyflwr meddyliol y defnyddiwr, gall rhai profiadau godi ofn, gall ôl-fflachiau ddigwydd dyddiau neu wythnosau wedyn ac mae rhai defnyddwyr yn dweud eu bod wedi cael effeithiau emosiynol annymunol sy’n para sawl diwrnod ar ôl cymryd DMT.
Mae’n tarddu o deulu’r tryptamin sy’n tyfu’n naturiol ac yn achosi effaith rhithbeiriol.
Fel arfer caiff ei ymygu o beipen neu bong mewn dosiau bach iawn. Gellir ei sniffian neu’i chwistrellu hefyd.
Peipen neu bong os ydych yn ei ysmygu. Os ydych yn ei sniffian bydd angen llafn rasel, arwyneb gwastad caled (fel drych neu wydr), tiwb neu pres papur wedi’i rolio. Os ydych yn ei chwistrellu bydd angen nodwyddau, chwistrelli a dŵr.
Mae’n dod yn wreiddiol o blanhigion ond yn awr caiff ei gynhyrchu’n synthetig.
Mae gan y rhan fwyaf o ardaloedd yn y DU brosiectau neu ‘asiantaethau stryd’ (a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymuned neu dimau cyffuriau cymuned) sy’n cynnig amryw o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela a weithiau grwpiau cefnogi a therapiau cyflenwol fel aciwbigo. Mae gan rai gwasanaethau oriau gweithio hirach ac efallai byddent yn rhoi cefnogaeth dros y penwythnos. Os bydd defnyddio’r sylwedd hwn yn dod yn broblem gallwch gael cymorth, cyngor a chwnsela gan wasanaeth yn eich ardal. Gall Meddygon Teulu eich cyfeirio at wasanaethau cyffuriau arbenigol. Os ydych eisiau disgrifiad o’r hyn y mae’r gwasanaethau cyffuriau gwahanol yn ei wneud, dewisiwch gwasanaethau sy’n helpu yma neu’r brif ddewislen.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: