Cyclizine

cyclizine
  • Valoid
  • Cyclizine Lactate
  • Cyclizine Hydrochloride

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: Cyclizine hydroclorid (tabledi), cyclizine lactate (ampylau)

Enwau Generig: Cyclizine

An example of what Cyclizine looks like
Fel ampwl: mae cyclizine tartrate yn cael ei gynnwys fel gwrth-emetig mewn Cyclimorph - opoid a ddefnyddir i reoli poen. Ar ffurf tabled dan yr enw brand Diconal, ble mae'n cael ei weithredu fel gwrth-emetig wedi'i gyfuno â'r opoid dipipanone i reoli poen a salwch.

Effeithiau A Ddymunir:

Llonder dwys - rhuthr - wrth ei chwistrellu

Sgîl Effeithiau:

Cysglyd, golwg aneglur, pendro, dryswch, colli cof dros dro.

Tymor Hir:

Dibyniaeth, dryswch cronig, problemau'r galon, symudiadau anwirfoddol o'r cyhyrau (atacsia), symudiadau anwirfoddol i'r llygaid (nystagmus).

Tymor Byr:

Damweiniau (yn benodol os yw'n cael ei gymysgu ag alcohol).
Gwrth-histamin, gwrth-emetig
Drwy'r geg neu ei chwistrellu - fel arfer fel cyfuniad gyda heroin neu physeptone.
Os yw'n cael ei chwistrellu: nodwyddau a chwistrell, dŵr, matsien neu daniwr, llwy, rhwymyn tynhau.
Fel gwrth-emetig i reoli cyfog a chwydu.
Dyma gyffuriau fferyllol a ellir ei ddargyfeirio i'r farchnad anghyfreithlon.
Pan gaiff ei ddefnyddio gydag opiadau (Diconal) mae'n ffurfio dibyniaeth. Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymuned neu dimau cyffuriau cymuned, sy'n cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, dadwenwyno a rhagnodi i rai sy'n defnyddio opiadau, grwpiau cefnogi a gwasanaethau eraill fel aciwbigo. Mae rhai'n agor am oriau hirach ac weithiau ar benwythnosau. Gall meddygon teulu ac ysbytai wneud cyfeiriadau at wasanaethau fel Unedau Dibyniaeth Cyffuriau. Mae'r rhain fel arfer mewn ysbytai neu gyferbyn iddynt ac maen nhw'n arbenigo mewn helpu rhai sy'n defnyddio cyffuriau, yn enwedig unigolion sy'n gaeth i gyffuriau opiate/opioid. Maen nhw'n cynnig cwnsela, dadwenwyno, rhagnodi amnewidion a thriniaethau eraill. Mae gwasanaethau preswyl yn cynnig rhaglenni triniaeth i rai sy'n gaeth iawn i gyffuriau ac sy'n ymdrechu i roi'r gorau iddi. Rhaid iddynt fod yn rhydd o gyffuriau wrth gael eu derbyn fel arfer, sy'n golygu bod yn rhaid iddynt gael eu dadwenwyno cyn mynd i mewn. Fel arfer, mae rhaglenni'n para 3-6 mis, ond mae rhai rhaglenni 12 cam yn para mwy. Mae'r mathau o raglenni yn amrywio. Mae grwpiau hunan gymorth fel Narcotics Anonymous (NA) yn cydlynu grwpiau cefnogi lleol i rai sy'n defnyddio cyffuriau ar hyd a lled y wlad. Mae Families Anonymous yn cynnal grwpiau tebyg i deuluoedd rhai sy'n defnyddio cyffuriau.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: