Codeine

codeine
  • Syrup
  • Captain Cody
  • Cody

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: 3-methylmorphine

Enwau Generig: Codeine Phosphate

An example of what Codeine looks like
Mae Codeine ar gael fel arfer ar ffurf tabled, hylif geneuol ac weithiau mewn ffiolau i'w chwistrellu ar gyfer ei roi yn rhyng-gyhyrol.

Effeithiau A Ddymunir:

Llonyddwch, llai o bryder, ymlaciad, lleddfu poen.

Sgîl Effeithiau:

Syrthni, ffwndro, dryswch, teimlo'n sâl a chwydu, cosi a chwiwiau poeth, rhwymedd

Tymor Hir:

Dibyniaeth gorfforol a seicolegol drwy ddefnyddio'n fynych. Mae llawer o gymysgedd codeine yn cynnwys poen laddwyr, megis paracetamol, ac os cymerir dosiau mawr, gall fod yn wenwynol i'r iau.

Tymor Byr:

Goddefiad, damweiniau, gorddos. Yn union fel dihydrocodeine, dylid osgoi ei roi yn fewnwythiennol, oherwydd gall hyn arwain at niweidio'r gwythiennau a chylchrediad, hylif ar yr ysgyfaint a all fod yn beryglus iawn ac adwaith alergaidd difrifol iawn a all arwain at farwolaeth.
Opiad. Iselydd y system nerfol ganolog, poen laddwr, lleddfu peswch, Tawelydd.
Mae'r tabledi'n cael eu llyncu drwy'r geg. Ni ddylid chwistrellu Codeine yn fewnwythiennol (fel Dihydrocodeine) - mae defnyddwyr sydd wedi ceisio malu tabledi'n fân i'w chwistrellu wedi adrodd am brofiad poenus. Mae ffiolau y gellir eu chwistrellu ar gyfer pigiadau rhyng-gyhyrol.
Os caiff ei chwistrellu, ffiolau wedi'u paratoi, nodwydd chwistrell.
Rhagnodir gan feddyg i drin poen ysgafn i ganolig yn ogystal ag ar gyfer peswch a diffyg anadl. Gellir ei gymryd hefyd i drin dolur rhydd. Gellir cyfuno ychydig o codeine gyda meddyginiaethau eraill megis paracetamol, ibuprofen neu aspirin, ar gyfer trin cur pen ayb. Gellir dod o hyd iddo mewn ffisig tagu, tabledi neu gapsiwlau a gellir eu prynu mewn fferyllfa fel meddyginiaethau dros y cownter. Ceir rhybuddion ar y pecynnau hyn ynghylch y risg o ddibyniaeth. Mae codeine hefyd mewn meddyginiaethau eraill megis Co-codamol a hefyd mewn meddyginiaethau eraill dros y cownter.
Mae'n gyffur fferyllol sydd weithiau yn ailgyfeiriedig gan fasnachwyr, fferyllfeydd neu bresgripsiwn MT.
Gall y rhai sy'n defnyddio Codeine gael cymorth gan 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymunedol neu dimau cyffuriau cymunedol, sy'n cynnig ystod o wasanaethau gan gynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, dadwenwyno a rhagnodi i rai sy'n defnyddio opiadau, cyfnewid nodwyddau ac weithiau grwpiau cefnogi a gwasanaethau eraill fel aciwbigo. Mae rhai'n agor am oriau hirach ac weithiau ar benwythnosau. Gall meddygon teulu ac ysbytai atgyfeirio at wasanaethau fel Unedau Dibyniaeth Cyffuriau. Mae'r rhan fel arfer mewn neu ger ysbytai ac maen nhw'n arbenigo mewn helpu'r rhai sy'n defnyddio cyffuriau, yn enwedig pobl sy'n gaeth yn gorfforol. Maen nhw'n cynnig cwnsela, dadwenwyno, rhagnodi amnewidion a thriniaethau eraill. Mae gwasanaethau preswyl yn cynnig rhaglenni triniaeth i rai sy'n gaeth iawn i gyffuriau ac sy'n ymdrechu i roi'r gorau iddi. Rhaid iddynt fod yn rhydd o gyffuriau wrth gael eu derbyn fel arfer, sy'n golygu bod yn rhaid iddynt gael eu dadwenwyno cyn mynd i mewn. Fel arfer, mae rhaglenni'n para 3-6 mis, ond mae rhai rhaglenni 12 cam yn para mwy. Mae'r mathau o raglenni yn amrywio. Mae grwpiau hunan gymorth fel Narcotics Anonymous (NA) yn cydlynu grwpiau cefnogi lleol i rai sy'n defnyddio cyffuriau ar hyd a lled y wlad. Mae Families Anonymous yn cynnal grwpiau tebyg i deuluoedd rhai sy'n defnyddio cyffuriau.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: