Mae DAN 24/7 wedi ymrwymo i wneud gwybodaeth ar gael ar y we i unrhyw un yng Nghymru waeth pa borwyr gwe sy’n cael eu defnyddio neu nodweddion corfforol y defnyddwyr. Byddwn ni’n cyflawni’r ymrwymiad hwn trwy roi’r amser a’r adnoddau sy’n ofynnol i sicrhau bod pob defnyddiwr yn gallu cyrchu’r gwasanaethau rydym ni’n darparu. Byddwn ni’n mynd i’r afael ag anghenion pobl ag anableddau yn y gwaith bydd DAN 24/7 yn ymgymryd ag ef bob amser.
Anhysbysrwydd Defnyddwyr a Gwybodaeth Bersonol ar DAN 24/7: Mae ffeiliau log yn cael eu cadw a’u dadansoddi o bob cais am ddata ar wefan DAN 24/7. Bydd dadansoddiadau cyfanredol o’r ffeiliau log hyn yn cael eu cadw i fonitro defnydd o’r wefan. Bydd gwybodaeth pob ffeil log sy’n cael ei chasglu gan DAN 24/7 yn cael ei chadw yn ddiogel ac ni fydd unrhyw fynediad at ffeiliau log crai yn cael ei roi i unrhyw drydydd parti.
Bydd DAN 24/7 yn ceisio ei orau i sicrhau cywirdeb a dibynadwyedd gwybodaeth ar wefannau DAN 24/7 yn unol â’r polisïau a ddiffiniwyd ar gyfer DAN 24/7. Fodd bynnag, ni ellir gwarantu bod y wybodaeth ar DAN 24/7, neu wefannau cysylltiedig, neu wefannau â dolenni atynt, yn gywir, cyflawn a chyfredol ar unrhyw amser penodol. Efallai y bydd gwybodaeth a gyflwynir ar DAN 24/7 neu wefannau cysylltiedig yn cael ei newid ar unrhyw adeg. Bwriad yr adnoddau sydd ar gael ar DAN 24/7 yw cynorthwyo defnyddwyr yng Nghymru wrth iddynt ddefnyddio gwasanaethau sy’n gysylltiedig ag iechyd ac maent er gwybodaeth yn unig. Ni fwriadwyd bod unrhyw beth ar y wefan hon yn gyngor i chi. Dylai cyngor penodol gael ei geisio mewn sefyllfaoedd penodol gan weithiwr iechyd â chymwysterau priodol. Mae nifer o bolisïau a chanllawiau yn llywodraethu cynnwys ar DAN 24/7.
Nid yw darpariaeth dolen i Wefan arall ar wefan DAN 24/7 yn golygu bod unrhyw awdurdodiad i gyrchu gwybodaeth a ddelir yn y lleoliad hwnnw. Mae dolenni i wefannau’n cael eu darparu at ddibenion gwybodaeth yn unig ac ni dderbynnir unrhyw gyfrifoldeb am ansawdd yr adnoddau sydd i’w canfod ar wefannau o’r fath. Mae’r cynnwys a’r deunydd sydd ar gael ar wefannau cysylltiedig hollol y tu allan i’n rheolaeth ac felly ni dderbynnir unrhyw atebolrwydd am unrhyw iawndal sy’n deillio o gyrchu neu fethu â chyrchu’r gwefannau hyn. Nid yw presenoldeb dolen ar wefan DAN 24/7 yn golygu bod cefnogaeth yn cael ei fynegi na’i awgrymu. Efallai y bydd cynnwys gwefan gysylltiedig yn newid heb fod yn gwybod i ni ac o ganlyniad, efallai y bydd dolenni’n torri neu’n terfynu ar dudalennau nad oedd yn dargedau gwreiddiol dolen. Ni dderbynnir unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am breifatrwydd gwybodaeth bersonol ar gyfer gwefannau cysylltiedig, oherwydd bod y rhain tu hwnt i’n rheolaeth.
|